#

Y Pwyllgor Deisebau | 21 Mai 2019
 Petitions Committee | 21 May 2019
 
 
 ,Addysg Iechyd Meddwl yn y cwricwlwm 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-879

Teitl y ddeiseb: Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb: Pan fyddaf yn gweithio i Mental - Y Podcast i Ddat-stigmateiddio Iechyd Meddwl, rwy’n pryderu’n barhaus am ddiffyg addysg sy’n ymwneud ag iechyd meddwl mewn ysgolion. Gydag un o bob pedwar ohonom yn dioddef salwch meddwl bob blwyddyn yn ôl yr elusen Mind, ymddengys bod hwn yn fwlch gwirioneddol a sylweddol yn ein system addysg.

 YSTADEGAU ALLWEDDOL:

§  Mae dros hanner o bob salwch meddwl yn dechrau cyn bod unigolyn yn 14 mlwydd oed, ac mae 75% o bob salwch meddwl wedi datblygu erbyn y bydd unigolyn yn 18 mlwydd oed;

§  Canfu arolwg yn 2015 fod 13% o oedolion (16 oed a hŷn) sy'n byw yng Nghymru wedi cael triniaeth am broblem iechyd meddwl, sef cynnydd o 12% o'i gymharu â'r ffigur yn 2014;

§  Mae cost cyffredinol problemau iechyd meddwl yng Nghymru oddeutu £7.2 biliwn y flwyddyn.

§  Mae’r ystadegau’n syfrdanol, ond er bod pwnc cyfan yng nghwricwlwm Cymru yn canolbwyntio ar ein hiechyd corfforol ar ffurf y pwnc Addysg Gorfforol, nid yw ein pobl ifanc yn dysgu dim am yr afiechydon meddwl mwyaf cyffredin hyd yn oed.

§  Mae hyn, nid yn unig yn golygu eu bod yn amharod ac yn agored pan ddaw’n fater o ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain, ond hefyd mae’n gosod cynsail nad yw Iechyd Meddwl yn cael ei drafod. Mae hyn yn plannu hadyn o stigma sy’n aros gyda llawer drwy gydol eu hoes.

§  Rydym am glywed barn y rhai sydd mewn grym ynghylch cynllun ehangach i wella bywydau pobl ifanc Cymru. 

YN YMGYRCHU DROS:

§  Fod addysg iechyd meddwl yn dod yn addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, heb ychwanegu dim arholiadau / gwaith cartref ar y pwnc hwn.

§  Y gall pob plentyn yng Nghymru gael mynediad at gwnselydd cymwys drwy ei ysgol.
Fod pob ysgol yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant Iechyd Meddwl i’w staff.

1.    Y cwricwlwm presennol

Mae iechyd a lles meddyliol ac emosiynol yn rhan o’r cwricwlwm presennol drwy wersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh). Mae darparu gwersi ABCh yn un o ofynion statudol y cwricwlwm sylfaenol mewn ysgolion, ond caiff ysgolion benderfynu ar y cynnwys yn ôl eu disgresiwn.  Mae'r fframwaith anstatudol addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru fframwaith anstatudol addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru (2008) yn argymell dull gweithredu a chanlyniadau dysgu. Mae iechyd a lles emosiynol yn un o bum thema'r fframwaith ABCh. Mae'r fframwaith yn nodi:

§  Yng Nghyfnod Allweddol 3 (14 oed), dylai dysgwyr gael cyfleoedd i ddangos agwedd gyfrifol at gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel ac yn iach, ac i ddeall yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol a'r manteision o gael mynediad at wahanol ffynonellau o wybodaeth, cymorth a chyngor. 

§  Yng Nghyfnod Allweddol 4, dylai dysgwyr gael cyfleoedd i dderbyn cyfrifoldeb personol am gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel ac yn iach. Dylent ddeall y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl a'r ffyrdd y gellir meithrin lles emosiynol. Dylent wybod am y sefydliadau statudol a gwirfoddol sy'n cefnogi iechyd a lles emosiynol a sut i gael gafael ar gyngor iechyd proffesiynol a chymorth personol yn hyderus. 

§  Dylai dysgwyr ôl-16 gael cyfleoedd i gymryd cyfrifoldeb am bob agwedd ar ddatblygiad personol a chymdeithasol a lles. Dylent ddeall sut i asesu'n feirniadol dewisiadau personol sy'n effeithio ar eich ffordd o fyw yng nghyd-destun iechyd corfforol a lles emosiynol, gan ystyried canlyniadau byrdymor a hirdymor unrhyw benderfyniadau o'r fath a'r profiadau bywyd sy'n gwella neu'n lleihau hunan-barch ac archwilio'r ffyrdd gorau o ymdopi â gofynion sefyllfaoedd o'r fath. 

2.  Cwricwlwm Newydd i Gymru (i'w gyflwyno o fis Medi 2022)

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cwricwlwm newydd drafft ar 30 Ebrill 2019. Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno'n statudol ym mis Medi 2022. Bydd yn cael ei gyflwyno i ddechrau mewn ysgolion cynradd a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2022, cyn cael ei gyflwyno i Flwyddyn 8 ar gyfer 2023, Blwyddyn 9 yn 2024, ac yn y blaen wrth i’r garfan symud drwy'r ysgol.

Trefnir y cwricwlwm newydd yn chwe 'Maes Dysgu a Phrofiad’ yn hytrach na phynciau cul. O fewn y rhain, mae datganiadau ‘beth sy’n bwysig’ yn nodi’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau pwysicaf i’w dysgu.  Dyma'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad:

§  Celfyddydau Mynegiannol

§  Iechyd a Lles

§  Dyniaethau

§  Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

§  Mathemateg a Rhifedd

§  Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Bydd dysgu am iechyd meddwl yn dod o dan y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn bennaf.

Trefnir y cwricwlwm newydd mewn Camau Cynnydd i ddisgyblion 5, 8, 11, 14 ac 16 mlwydd oed (yn hytrach na chyfnodau allweddol) ac ar ffurf Deilliannau Cyflawniad a fydd yn berthnasol yn fras i’r disgwyliadau ar yr adegau hynny. Nodir y camau cynnydd yn ôl yr hyn y gall dysgwr ei wneud, neu’r hyn y mae wedi’i wneud.

3.  Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles

Mae'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles drafft yn ymwneud ag agweddau corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol bywydau.  Ei nod yw cydnabod iechyd a lles da fel galluogwr allweddol dysgu llwyddiannus. Nod y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yw cefnogi dysgwyr i ddatblygu a chynnal eu hiechyd a'u lles corfforol, a'u hiechyd meddwl a'u lles emosiynol, yn ogystal â datblygu cydberthnasau cadarnhaol mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae ar gael mewn fformat ar-lein neu fformat PDF annibynnol[PDF 1.32MB].

Mae’r datganiadau 'Beth sy'n bwysig' yn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn yn ceisio disgrifio'r ffactorau sylfaenol sy'n hybu iechyd a lles. Eu nod yw rhoi hyblygrwydd i weithwyr proffesiynol nodi’r pynciau a'r materion hynny sy'n berthnasol i anghenion eu dysgwyr, yr ysgol a'r gymuned.

Mae pum elfen yn y datganiadau beth sy’n bwysig o ran Iechyd a Lles:

§  Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.

§  Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddynt yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

§  Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.

§  Mae’r ffordd rydym yn ymgysylltu â dylanwadau cymdeithasol gwahanol yn siapio pwy ydym ni a’n hiechyd a’n lles.

§  Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein hymdeimlad o berthyn ac ar gyfer ein lles.

Mae gwybodaeth am y camau cynnydd a'r profiadau, y wybodaeth a'r sgiliau yr oedd dysgwyr wedi’u cynnwys yn yr elfen ‘mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddynt yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol’ wedi’i hatodi yn Atodiad A.

4.        Gweithgareddau’r Cynulliad

Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr adroddiad ar ei ymchwiliad i iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc, Cadernid Meddwl [PDF 3.4KB], ym mis Ebrill 2018. Y prif argymhelliad oedd:

Bod Llywodraeth Cymru yn gwneud lles a gwydnwch emosiynol a lles a gwydnwch meddwl ein plant a’n pobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig.

Roedd yr adroddiad yn eang ei natur ond roedd ffocws cryf ar wasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar, gan ganolbwyntio'n benodol ar ysgolion a sut y gallant weithio'n fwy effeithiol gyda gwasanaethau iechyd i adeiladu gwydnwch emosiynol plant a phobl ifanc.

Nid oedd y Pwyllgor yn fodlon bod ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru [PDF 1.2KB] yn bodloni argymhellion adroddiad y Pwyllgor. Yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Gorffennaf 2018, dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor y canlynol:

fy mod i a'r pwyllgor yn siomedig iawn gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion. […] nid yw ymateb y Llywodraeth yn bodloni ein disgwyliadau, a'n galwadau am newid sylweddol o ran dull o weithredu. Fel pwyllgor, rydym yn gwrthod yr ymateb hwn; nid yw'n ddigon da.

Wedi hynny, cyhoeddodd y Gweinidogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg eu bwriad i ffurfio 'Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol' a 'Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid', mewn ymateb i bryderon y Pwyllgor ac Aelodau'r Cynulliad.

Ar 14 Ionawr 2019, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £7.1 miliwn i gefnogi'r Llywodraeth â’i gwaith yn dilyn argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor.  Bwriad yr arian yw diogelu, gwella a chefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc trwy ddatblygu gwasanaethau ymhellach. Dywedodd y Gweinidog y canlynol:

Mae'r buddsoddiad o £7.1m yn ychwanegol at y £1.4m y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi mewn rhaglen iechyd meddwl mewngymorth i ysgolion, er mwyn cryfhau'r cymorth y mae CAMHS yn ei ddarparu mewn ysgolion, a hynny mewn pedwar ardal beilot ar draws Cymru.

Ym mis Mai 2019, rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Addysg ddiweddariad ynghylch yr argymhellion i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mewn perthynas â hyfforddiant athrawon, dywedodd y Gweinidogion y canlynol:

Byddwn yn datblygu’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud i gynnwys iechyd meddwl a lles emosiynol mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, gan gomisiynu pecynnau hyfforddi pwrpasol ar gyfer athrawon a staff eraill mewn ysgolion yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles. Bydd y pecynnau hyn ar gael i athrawon a staff eraill mewn ysgolion fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus. Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i athrawon a staff ysgolion yn ehangach sefydlu agwedd ysgol gyfan at iechyd meddwl a lles emosiynol, a bod angen cymorth arnynt i allu cefnogi plant a phobl ifanc.

Deisebau blaenorol

Trafododd y Pwyllgor ddwy ddeiseb, Cyflwyno Addysg Iechyd Meddwl Orfodol mewn Ysgolion Uwchradd a Gwneud Iechyd Meddwl yn Rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn 2016.  Ar y pryd, dywedodd y Gweinidog Addysg, fel rhan o gynllun y cwricwlwm newydd, y byddai'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn tynnu ar les meddyliol, corfforol ac emosiynol.  Felly, caewyd y ddwy ddeiseb gan y Pwyllgor.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad A: Y camau cynnydd a'r profiadau, y wybodaeth a'r sgiliau yr oedd dysgwyr wedi’u cynnwys yn yr elfen ‘mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddynt yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol’.

Cam cynnydd 1 (5 oed)

§  Bod yn ymwybodol o ganfyddiadau a meddyliau;

§  Bod yn ymwybodol o deimladau a’u cyfleu;

§  Bod yn ymwybodol bod meddyliau a theimladau yn newid;

Cam cynnydd 2 (8 oed)

§  Canolbwyntio ar yr hyn rwy’n ei ganfod a’i feddwl;

§  Cyfleu teimladau;

§  Deall sut a pham mae fy meddyliau, fy nheimladau a’m gweithredoedd yn newid mewn ymateb i wahanol brofiadau.

Cam cynnydd 3 (11 oed)

§  Cydnabod budd gallu canolbwyntio ar ganfyddiadau a meddyliau a deall bod hunanymwybyddiaeth yn cael ei datblygu.

§  Datblygu ffyrdd o reoli fy emosiynau fy hun mewn ffordd iach a gallu ymdopi â’r broses hon yn fwyfwy annibynnol a llwyddiannus.

§  Myfyrio ar y ffordd y mae digwyddiadau a phrofiadau yn y gorffennol wedi effeithio ar feddyliau, teimladau a gweithredoedd.

§  Datblygu'r gallu i ragweld sut y bydd digwyddiadau yn y dyfodol o bosibl yn gwneud i mi ac eraill deimlo.

Cam cynnydd 4 (14 oed)

§  Canolbwyntio'n annibynnol ar ganfyddiadau, meddyliau a theimladau er mwyn datblygu hunanymwybyddiaeth ymhellach.

§  Dod o hyd i wahanol strategaethau i reoli fy emosiynau fy hun mewn ymateb i amrywiaeth o brofiadau.

§  Myfyrio a dysgu o’r gorffennol er mwyn rhagweld a pharatoi ar gyfer profiadau yn y dyfodol.

§  Deall gwerth gallu dangos empathi ag eraill a sut mae hyn yn arwain at weithredoedd o gydymdeimlad a charedigrwydd.

Cam cynnydd 5 (16 oed)

§  Defnyddio hunanymwybyddiaeth i werthfawrogi cymhlethdod fy emosiynau a defnyddio strategaethau er mwyn rheoli fy hunan mewn ffordd iach ac er mwyn cysylltu ag eraill.

§  Myfyrio, ymateb a dysgu o brofiadau yn y gorffennol a’r presennol er mwyn rhagweld a pharatoi ar gyfer profiadau yn y dyfodol.

§  Trosglwyddo'r sgiliau hyn er mwyn gofalu am deimladau a meddyliau eraill.

§  Dangos empathi tuag at eraill, ac mae hyn yn fy helpu i ddangos cydymdeimlad a charedigrwydd tuag ataf i fy hunan ac eraill.

Mae pob datganiad Beth sy'n Bwysig yn cynnwys manylion am y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau y dylai dysgwyr eu dysgu.  O ran yr elfen mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddynt yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol, mae’r rhain yn cynnwys y canlynol, ym mhob cam cynnydd:

Mae angen i ddysgwyr brofi:

§  cyfleoedd i droi teimlad o empathi yn weithred o garedigrwydd a chydymdeimlad tuag atynt hwy eu hunain ac eraill

§  cyfleoedd sy'n annog unigolion i fyfyrio, yn unigol ac mewn grŵp, o fewn amgylchedd sy’n eu hamddiffyn a’u cefnogi

§  trafodaethau diogel a chefnogol am brofiadau sy'n effeithio ar iechyd meddwl a lles emosiynol.

Mae angen i ddysgwyr wybod:

§  y gall ein hiechyd meddwl a’n cyflwr emosiynol newid

§  sut mae hunanddelwedd yn effeithio ar iechyd meddwl a lles

§  am amrywiaeth o strategaethau sy'n hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles

§  sut mae'r ymennydd yn rhyngweithio â gweddill y corff, gan gynnwys y system ymateb i straen a’r newidiadau ffisiolegol sy'n digwydd

§  y gallant gael gafael ar amrywiaeth o gymorth er mwyn cynnal eu hiechyd meddwl a'u lles emosiynol

§  y gall iechyd meddwl a lles emosiynol pobl eraill fod yn wahanol i'w hiechyd meddwl a’u lles emosiynol nhw

§  am gyflyrau meddygol a all effeithio ar ein hiechyd meddwl a'n lles emosiynol

§  y gall yr amgylchedd effeithio ar ein hiechyd meddwl a'n lles emosiynol.

Mae angen i ddysgwyr allu:

§  cydnabod a mynegi’r hyn y maent yn ei ganfod, yn ei feddwl, ac yn deimlo er mwyn meithrin eu hunanymwybyddiaeth a datblygu gwell ymwybyddiaeth o’u hemosiynau

§  myfyrio ar brofiadau a rhagweld sut y gallant effeithio arnynt

§  datblygu strategaethau er mwyn rheoli eu hunain heb arweiniad gan eraill

§  cyfleu sut y maent yn teimlo a gofyn am help pan fydd ei angen.